Home

Previous 20

Dec. 7th, 2006

Arian, na, does dim angen da fi diolch yn fawr

Jyst cwpl o wythnosau i fynd cyn Nadolig, a cwpl o anrhegion:

. Y datganiad gan Gordon Brown o godiad yn y pris petrol. Nadolig Llawen i chi hefyd!
. Gwasanaeth o fy boiler oedd i fod i gostio £30 yn troi i mewn y newyddion bod y boiler mewn cwestiwn yw death trap. Felly, heddiw, dyn ni'n mynd i gael boiler newydd. Ond, diolch i'r rheolau ar arbed egni (ie - diolch i'r llywodraeth unwaith eto), dyw hi ddim jyst mater o boiler newydd, ond o ffitio condensing boiler (neu yn ein cais ni, combi boiler), sydd yn mynd i olygu lot o waith o gwmpas y ty, a lot mwy o arian hefyd. Ond, alla i ddim yn gwyno rili - yn well i wybod a brynu boiler newydd na i fyw gyda boiler sydd yn pwmpio mas Carbon Monoxide i mewn ein ty ni.

I topio'r wythnos, fy Nan yw yn yr ysbyty gyda rhyw fath o heintiad difrifol. 88 yw hi...

Felly, Nadolig Llawen pawb! ;-)

Nov. 29th, 2006

Dydd Gwyl Dewi

Bob blywyddyn dyn ni'n clywed am yr ymgyrch i gael gwyl cyhoeddus newydd am Dydd Dewi Sant, felly o ddiddordeb oedd hi i weld y stori islaw, am ymgais newydd i gael gwyl cyhoeddus am St Andrew.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/scotland/6193670.stm

Mae hi'n edrych tebygol y fydd na ddim gwyl swyddogol i nodi'r dydd, ond yn hytrach gwyl gwirfoddol. Synnwyr cyffredin yw hyn, gan bod lot o gwmniau (yn arbennig canolfannau galwad) yn gwneud eu busnes gyda chwmniau yn rhannau eraill o'r gwlad.

Tybed os dyn ni'n tebygol o weld yr un fath o ymgyrch yng Nghymru cyn bo hir? Rhaid dweud, alla i ddim yn weld lot o gwmniau yn mynd am gwyl o'r fath, ond cawn ni'n weld.

Nov. 15th, 2006

Agwedd Gwarthus Novartis

Yn ol Oxfam, mae'r cwmni cyffuriau Novartis yn herio Indian Patent Law yn y llysoedd, i warchod ei hawl i werthu moddion yn India. Y nod yw i atal cwmniau yn India rhag cynhyrchu cyffuriau generic rhatach, sydd o gymorth mawr wrth gwrs i bobl yng ngwledydd tlawd fel India. Agwedd gwarthus yw hyn gan Novartis - enghraifft arall o rhoi elwau o flaen hawliau dynol, sef yr ymgais gan y llwodwraeth India i warchod yr iechyd o'r pobol y gwlad, heb talu y costiau uwch iawn o gwmniau fel Novartis.

Felly, danfon e-bost at Novartis, neu sgwennu llythyr, neu lobio'r cwmni...

http://www.maketradefair.com/en/index.php?file=emailnovartis.htm&ito=1848&itc=0

Nov. 14th, 2006

Caerdydd yw’r lle i Kyffin?

Yn y rhifyn diweddar o Golwg, mae Chris Dafis yn dadl bod y lle i gael oriel genedlaethol o waith Kyffin Williams yw Caerdydd yn hytrach na Ynys Môn. Mae e'n dadl bod, am rhesymau i neud â hybu'r prifddinas, a'r ansawdd y adeiladau ar gael, dylai'r gwaith yn mynd i Gaerdydd.

Yn fy marn i, hynny yw yn union y problem - tra dyn ni'n cario ymlaen i symud popeth i Gaerdydd (ac, yn erbyn ei dadlau fe, dwi ddim yn siwr bod ni isio hybu Caerdydd cymaint y dyddiau ma, gyda'r Bae a'r Cynulliad a Torchwood, ayyb), dyn ni ddim yn mynd i gael adeiladau digon dda amdano fe unrhywle arall. Catch 22, yw hi?

Ond, am enghraifft dda o sut mae hi'n posib am rhywbeth o'r fath i hybu ardal - jyst mynd i Laugharne i weld ma mor dda maen nhw'n gwneud.

Nov. 9th, 2006

Dwi di ennill y loteri...

Dwi di ennill y loteri yr wythnos hon. Dim ond £20 - dwi ddim yn debygol o rhoi gorau i'r swydd eto - ond mae'n amlwg y bydd rhaid i fi cael yr arian am y morgais, os mae'r newyddion heddiw yn cywir:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/6129780.stm

Fydd hi ddim yn lot o arian ychwanegol, ond beth dwi ddim yn ddeall yw'r resymau. Y bwriad yw i ddal inflation dan rheolaeth. Digon teg. Ond, yn ol y newyddion, yr achos yn ol y codiad yn inflation yw 'utility bills and university fees'. Ydy'r bwriad wedyn i daro ni felly does dim digon o arian 'da ni i dalu am unrhywbeth ond y biliau? Siwr o helpu'r economi yw hynny... Os biliau nwy, trydan, ayyb yw'r rheswm yn ol y codiad yn inflation, byddwn i'n meddwl bod yr ymateb yw am y llywodraeth i edrych i mewn y problemau yn y marchnad hon. I fi, mae hi'n edrych fel y ffocws o'r Banc Lloegr yw rhy gul - maen nhw'n ceisio taclo inflation, heb y pwer i edrych ac i ddelio â'r holl problem.

Felly, dwi ddim yn siwr bod y banc yn mynd i gael lot o llwyddiant gyda'u nod, sef i ddal inflation dan rheolaeth, heb achosi lot o ddamwain i'r economi yn cyffredin, gan bod hi ddim yr economi sy'n achosi y codiad yn inflation, ond yn hytrach (am y rhan fwyaf) problemau gyda'r marchnad nwy a trydan. Amser am y llwodraeth i edrych unwaith eto i mewn eu cyfrifoldebau, yn hytrach na ceisio offload eu ar y banc?

Nov. 2nd, 2006

Plane Crazy

Fel arfer dwi ddim yn bostio yma yn y Saesneg, ond dyma'r testun o llythyr dwi wedi danfon at yr Independent, yn ymateb i'r stori "Plane Crazy" ar ei tudalen flaen 2 Tachwedd.

http://news.independent.co.uk/uk/transport/article1948215.ece

Sir: Your article Plane Crazy of 2nd November cheerfully criticises the plans for airport expansion around the country, citing the need to reduce carbon emissions, while brushing under the carpet the reasons for many of those airport expansions.

Regional airports around the UK are being encouraged to expand to give a boost to economies that continue to lag badly behind that of the South East. Is it a case yet again that the rest of the country is expected to suffer because of the excesses of London and the rest of the South East? We already have to put up with interest rate policy and taxation based on the economy of one tiny part of the UK (the current situation in the housing market being one particular, insane example). Are we now not allowed to develop our local economies because too much traffic is passing through Heathrow and Gatwick?

Perhaps, rather than simply criticising the planned airport expansions, a fair and equitable solution could be suggested. Cut down on the traffic through Heathrow and Gatwick, and re-distribute to the regional airports that are about to be expanded. That would have the doubly whammy of maintaining our current carbon emissions (and also allow for the possibility of reducing them), while boosting the economy in some of the less affluent parts of the UK. Which also offers the possibility of reducing the need for the million new homes in the South East we keep hearing about, and the added environmental strain that entails.

Oct. 31st, 2006

"Irac: Galw am ymchwiliad" - digon, plis

...yn ol y BBC heddiw:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6090000/newsid_6099600/6099676.stm

OK, camgymeriad mawr oedd y rhyfel yn Irac. OK, dweudodd y llywodraethau ym Mhrydain a America celwyddau i geisio perswadio ni i gefnogi'r rhyfel. A, dyn ni wedi troi'r gwlad i mewn llanast llawr, a mae hi'n edrych tebygol y bydd rhaid i ni tynnu mas heb datrys y problem, jyst gan all neb weld unrhyw ffordd mas o'r gwlad.

Ond...

Dyn ni wedi cael dau ymchwiliad eisoes.

Mae pawb erbyn hyn wedi penderfynu beth maen nhw'n meddwl am y rhyfel (a mae hi'n amlwg bod y mwyafrif y gwlad yn erbyn y rhyfel).

Mae hi'n amlwg, hyd yn oed, bod Bush a Blair yn meddwl bod y rhyfel yn syniad ddrwg.

Felly pam wastraffu mwy o'n arian ni ar ymchwiliad arall? Mae hi'n tebygol o gostio miliynau o bunnoedd i ddal ymchwiliad o'r fath, sydd yn tebygol (os mae hi'n mynd yr un ffordd fel yr ymchwiliadau dyn ni wedi cael hyd yn hyn) o neud neb yn hapus - gan fydd hi ddim yn mynd digon bell am y pobol sy'n galw am yr ymchwiliad, fel wedi digwydd hyd yn hyn.

Mater yw hyn o point scoring gan y gwleidyddion, a dim byd arall. Dyw ymchwiliad o'r fath ddim yn mynd i helpu'r pobol Irac, neu ein milwyr yn Irac, neu pawb sydd wedi marw dros celwydd mawr. A, cynical in the extreme yw hi am y ceidwadwyr i ymladd ar y llywodraeth ar y mater hon gan bod cefnogodd y plaid hwn y rhyfel o'r dechrau.

Llanast llawr yw'r rhyfel - llanast y ddylai hi erioed digwydd. Ond mater o hanes yw hi bellach. Mae'n amlwg bod pob plaid wedi dysgu gwersi o'r llanast. Mae Gordon Brown wedi dweud: "Now that there has been a vote on these issues so clearly and in such controversial circumstances, I think it is unlikely that except in the most exceptional circumstances a government would choose not to have a vote in Parliament. I think Tony Blair would join me in saying that, having put this decision to Parliament, people would expect these kinds of decisions to go before Parliament." Syniad sydd wedi ennill y cefnogaeth o David Cameron yn ymysg eraill ar draws pob plaid yn y ty'r cyffredin. A siwr ydw i y bydd na newidiadau mawr arall yn y ffordd mae gwleidyddion yn agosau unrhyw sefyllfa o'r fath yn y dyfodol. Sut bydd unrhyw ymchwiliad yn ychwanegu i'r proses?

Dyn ni isho bellach meddwl yn galed dros y dyfodol (sef, sut i ddatrys y problem sydd Irac), a nid dwelio ar hanes. Dyw hynny ddim yn mynd i helpu unrhywun, oni bai am y gyrfeydd o gwpl o gwleidyddion Plaid Cymru a'r SNP.

Oct. 30th, 2006

Dy hoff Rhaglenni BBC2W

Yn Golwg yr wythnos hon, sylwais i'r stori "Gwylwyr y ffin 'am golli sianeli Cymreig'". Mae'n posibl, mae'n amlwg, yn y byd digidol newydd y bydd hi'n anodd iawn am rhai ardaloedd yng Nghymru i dderbyn y sianeli Cymreig.

I dyfynnu o'r erthygl: "ac na fydd pobol ar y ffin yn gallu edrych ar eu hoff raglenni ar S4C neu BBC2W, neu'r newyddion rhanbarthol..."

OK, galla i weld y byddai hi'n poen mawr i golli y newyddion rhanbarthol (ydw - dwi'n hoff iawn o Wales Today nawr a te). A galla i weld hefyd bod na rhai pobl sy'n joio'r rhaglenni S4C (dwi'n dilyn Pobol Y Cwm, a Dudley, rhaid cyfaddef). Ond "hoff rhaglenni ar BBC2W"? Na, surely not...

Oct. 27th, 2006

Tesco A London Pride, Eto

Newydd sylwi yn Nhesco heddiw camgymeriad bach ar eu prisiau unwaith eto. Sef, £1.23 (reduced) am un botel o London Pride, neu £4.98 am 4-pack. Mae'n amlwg bod rhywun yn Nhescos ddim yn rhy dda gyda'r hen arithmetic. Mae hi'n dim ond mis neu dau ers roedd hi'n rhatach i brynu bar cyffredin o siocled na'r 'Value Siocled'.

OK, mae hi'n dydd Gwener a does dim yn well da' fi i meddwl am oni bai cwrw a siocled...

Oct. 26th, 2006

Ymgyrch Newydd Gan Oxfam - Pam?

Dwi di cael e-bost newydd oddi wrth Oxfam, un arall o'i ymgyrchoedd i rhoi pwys ar gwmniau / gwladydd i neud masnach teg. Unwaith eto, mae Oxfam yn cofyn wrthoch chi i ddanfon e-bost / fax at y cwmni ar bai (Starbucks yw hi, heddiw), i rhoi pwys arnyn nhw ar y pwnc masnach teg. Ond, fydd hi wneud unrhyw gwahaniaeth? Dwi'n siwr bod y cwmniau mewn cwestiwn jyst dileu'r e-byst sy'n cyrraedd, byddwn i'n meddwl gyda rhyw fath o spam filter. A dwi'n siwr bod Oxfam credu hyn hefyd. Felly, pam yr ymgyrch? I neud y newyddion? I rhoi i'u cefnogwyr rhywbeth i neud, felly maen nhw'n teimlo rhan o'r ymgyrch?

Neu, ydw i braidd rhy cynical?

Beth bynnag, os dych chi am i gymryd rhan:

http://updates.oxfam.org.uk/apps/display.aspx?t=f64-b0-b0-c51-2b636b

New Look

Dwi 'di bod mesio gyda'r style sheets, ayyb, yma ar Live Journal i rhoi new look i'r seiat. Am un munud ces i Counter ar y seiat, cyn penderfynnais i defnyddio'r style hon (Bloggish), sydd ddim yn gefnogi counters. Dwi ddim yn ddeall pam dyw'r feature ddim ar gael am bob style, ond dyna chi - dwi'n hoff iawn o'r style hon, beth bynnag. Beth dych chi'n meddwl?

Oct. 24th, 2006

Tetley's Bitter v Brains SA


Nid hanner mor bwysig â'r brwydr mawr yn y cynulliad, sef Elis-Thomas v Marek, ond...

Beth cwrw i ddewis yr wythnos hon? Wrth gwrs, 'Brains' byddai'r ymateb cyflym unrhyw wythnos arall. Ond, yn Nhesco heddiw sylweddais i'r pris newydd ar y 4-pack o Tetley's Bitter - £1.98. Tra'r Brains SA yw £3.98. Alla'i ddim hyd yn oed yn cofio sut mae'r Tetley's yn blasu, ond am y pris dwi'n siwr y caf i blas unwaith eto erbyn y penwythnos. Oni bai bod na dadleuon cryf yn erbyn y syniad?

Dwi'n hoff iawn hefyd o London Pride, ond braidd rhy ddrud yw hi rhai wythnosau...

Y We Cymraeg?

Mae Google wedi gwneud ei Search Engine ar gael am unrhywun i ddefnyddio ar ei seiat ei hunan - i customise, i rhoi blaenoriaeth i'r fath o ganlyniadau sydd yn dangos, ayyb. Tybed, os mae na ffordd o greu customised Search Engine sydd yn rhoi ffenestr ar y We Cymraeg yn unig?

A, fyddai unrhywun am i ddefnyddio rhywbeth fel hynny???? Syniad twp, yw hi?

http://news.bbc.co.uk/1/hi/technology/6079824.stm

Oct. 18th, 2006

Un Diwrnod Mewn Hanes

Dyma beth dwi wedi ychwanegu i'r blog History Matters:

http://www.historymatters.org.uk/output/Page1.asp

Roedd hi'n fy mai i. Dweudais i, y bore ddoe - Diwrnod dwl yw hi, dim byd yn digwydd, oni bai am eistedd yn y swyddfa a'r tagfeydd cyffredin ar y ffordd ac wedyn adref o'r gweithle. Beth i sgwennu ar y blog History Matters?

Roedd na y Parental Interviews yn yr ysgol (i drafod y progress mae dy plentyn wedi neud yn y hanner tymor cyntaf y blwyddyn ysgol newydd). Sdim lot i adrodd - mae popeth yn iawn, mae fy mab i yn gwneud da iawn yn yr ysgol, newydd dechrau dysgu darllen (4 oed yw e). Iawn!

Ac wedyn y galwad ffon amser cinio - dyw y toiled ddim yn fflysio rhy dda. Erbyn amser te, daeth hi yn amlwg bod na rhwystr rywle. Ceisiais i neud rhywbeth gyda coat hanger, ond na. Felly, mas gyda'r plymwr, a'i roden, ac erbyn naw o'r gloch y nos roedd na pump bwced llond o crap a bapur toiled tu allan y drws ffrynt. Mae'r plymwr bron yn colli ei ginio tra ceisio clirio llanast yn y draen... Fear and loathing yn y ty Summers. Erbyn hanner awr wedi naw cafodd popeth ei clirio. Dau cant o bunnoedd literally down the drain. Ond gallai eistedd ar fy nhoiled fy hunan gyda hyder unwaith eto. Gwerth pob ceiniog!

Oct. 13th, 2006

Tai fforddiadwy i bobl leol

Yn ol y stori hon:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6040000/newsid_6041800/6041886.stm

mae na cynllun newydd yng Ngogledd Iwerddon i gynnig tai fforddiadwy. Mae na cynlluniau arall, wrth gwrs, dyn ni'n gweld yn y newyddion a bapurau llawer mwy aml y dyddiau hyn: hysbysebion gan rhai o'r building societies i annog pobl ifanc i gymryd mas mortgage gyda'i ffrindiau, straeon am rhieni yn talu y deposit neu mwy i alluogi'u blant nhw i brynu eu ty cyntaf, ayyb.

Al wel and good, ond alla'i ddim yn weld sut bydd hyn yn helpu yn y tymor hir. Tra gall pobl ifanc yn prynu eu ty cyntaf, bydd y prisiau jyst yn dal i godi. Yr unig beth i sortio mas y sefyllfa yw am brisiau i ostwng. Mae na dwy ffordd y bydd hynny yn digwydd:

. Gan adeiladu llawer mwy tai i ddal fynny a'r galwad;
. Neu i ddod i'r sefyllfa ble all pobl ifanc ddim yn brynu eu ty cyntaf, ac aros am housing market crash i ddigwydd, tebyg i'r un o'r naw degau cynnar.

Y ffordd mae'r marchnad tai yn mynd, alla'i ddim yn weld yr opsiwn cyntaf yn digwydd digon cyflym. A, beth bynnag, dyw'r llywodraeth ddim wedi neud digon yn y maes hon oni bai yn y de ddwyrain, a fydd y cynllun hon ddim yn weld the light of day am nifer o blynnyddoedd eto. Rhy hwyr i gael effaith yn cyflym.

Felly, pam na gad i'r marchnad crash? Bydd hynny yn golygu negative equity a gwneud bywyd yn annodd iawn am lot o teuluoedd yn y tymor byr, ond byddai hi'n datrys y problem. Yn ol yr economists, dyw ymyrryd mewn unrhyw marchnad ddim yn syniad dda. Ac, alla'i ddim yn weld hi'n weithio yn y marchnad tai chwaith. Pam na, te, jyst gad i'r marchnad take it's own course?

Oct. 12th, 2006

Torchwood



Ie, Captain Jack yw yn ol. Y cymeriad gorau o'r cyfres newydd Doctor Who, mewn cyfres newydd sbon ei hunan. Cynhyrchiad gan BBC Cymru yw hi, gyda rhai pennodau cafodd eu sgwennu gan Russell Davies unwaith eto. Ac, jyst fel Doctor Who, cafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd a de Cymru, eto, ond y tro hwn mae'r action yn cymryd lle yn ein prifddinas ni hefyd.



Yn ol y Radio Times, mae'r cyfres yn dechrau ar BBC3 Nos Sul 22 Hydref, 9:00-10:40, gyda'r un pennod ar BBC2 Nos Fercher 25 Hydref, 9:00-10:40.

http://www.torchwood.org.uk/

Oct. 4th, 2006

Cymru Gwlad Masnach Teg?

Wel, yn y cynllun newydd gan Rhodri Morgan, sef:

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5400000/newsid_5406100/5406128.stm

Dyn ni'n, fel gwlad, yn mynd i roi cymorth i Affrica gan cefnogi "prosiectau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â gwledydd y Trydydd Byd." Digon teg, a syniad dda rhaid i mi dweud. (Ond gyda amheuaeth o ble bydd yr arian yn dod - mas o'r cyllideb presennol y cynulliad, neu arian newydd oddi wrth Llundain. Y presenoldeb o'r "Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Llywodraeth Prydain Hilary Benn" oedd o ddiddordeb hefyd - cynllun gan Llafur yw hyn, sut byddai'r Cynulliad ei weithio os roedd na plaid arall, er engraifft Plaid Cymru, yn rheoli'r cynulliad, heb cydweithrediad fel hyn o'r llywodraeth San Steffan?)

Ond, un nod arall roedd i "Helpu Cymru i fod yn wlad Fasnach Deg". OK, gallai weld y cynulliad, a sefydliadau fel cyngorau lleol yn prynu te a goffi masnach teg, ond tu hwnt hynnu? Ydyn ni'n mynd i weld y silffoedd yn Tescos yn gwag o bopeth ond nwyddau masnach teg? Na... Felly, dyw "Cymru Masnach Teg" ond "Cynulliad Masnach Teg", byddwn i'n meddwl. Gyda ychydig o arian cyhoeddus i gefnogi'r cynllun Masnach Teg - bydd hi'n edrych eitha dda am Rhodri a co yn yr etholiad nesaf, ond fydd hi'n gwneud unrhyw gwahaniaeth go iawn? Na.

Oct. 3rd, 2006

E-Bost Yahoo

Ar ol wedi weld y newyddion hon, am Yahoo yn rhoi programmers y cyfle i edrych ar y cod i'u program e-bost nhw, ac i greu "add-ons and extras for the e-mail reader", os mae na cyfle i cyfieithu rhai o'r front-end i fewn y Gymraeg, ac i gynnig fel add-in?

http://news.bbc.co.uk/1/hi/technology/5398310.stm

Dwi ddim yn rhy brofiadol yn web-development, neu sut mae Yahoo yn mynd i integrate y features newydd ar ol, ond rhywbeth sy'n gwerth tipyn o ymchwiliad?

Sep. 29th, 2006

Faniau Cyngor Caerffili

Nawr, weithiau dwi'n gweld y gair Saesneg ar yr ochr o'r faniau cyngor: "Caerphilly";

Ac, weithiau, yr un gair yn y Gymraeg: "Caerffili".

Ond, mae na o leia un fan gyda'r gair: "Caerffilli".

Mmmm.

Y Byd

Dwi wedi bod yn meddwl am ein papur newydd potensial Y Byd, ac yn arbennig eu ffigurau cylchrediad.

Yn ol eu seiat nwh, "Y gellid gobeithio sicrhau 5,000 o danysgrifiadau (7,000 o werthiant) yn y flwyddyn gyntaf".

Os dyn ni'n cymharu gyda Golwg (sydd yn gwerthu, ar cyfartal, 4500 copi yr wythnos, yn ol ffigurau oddi wrth y Cynulliad), a'r Cymro (4802 copi yr wythnos), wedyn mae'r ffigur o 5000 o danysgrifidau yn y flywyddyn gyntaf yn edrych eitha dda.

Nawr, i edrych ar y ffigurau o 7000 copi yn y blywyddyn cyntaf, a "10,000 o fewn dwy flynedd".

Arbrawf o ddiddordeb yw i gamharu i'r cylchrediad yr Western Mail, 42,578. Os dyn ni'n graddio'r ffigur hon gan y nifer o siaradwyr Cymraeg (sef ugain y cant yn ol y 2001 Census), dyn ni'n cael ffigur o 8516. Digon agos i'r ffigur o 10,000 ar y seiat Y Byd. Yn arbennig os dyn ni'n ystyru'r gostyngiad yn y cylchrediad y Western Mail, sydd ddim wedi bod adlewyrchu ym mhapurau newydd arall.

Nawr i'r "cylchrediad o 15,000 neu fwy yn bosib o fewn pum mlynedd".

Os dyn ni'n ystyru bod y 'Quality Papers' Prydeinig (fel y Times, yr Independent, y Guardian, ayyb) - y fath o bapur mae'r Byd yn ceisio i fod, yn ol eu cyhoeddiadau nhw, yn gwerthu ar cyfartal 2,631,456 copi. Wedyn, gallwn ni'n estimate y nifer sy'n siarad Cymraeg yn y grwp hon i 25,465 (2,903,085 poblogaeth Cymru / 60,000,000 Prydain / 5 i raddio i'r nifer o siaradwyr Cymraeg * 2,631,456).

Felly, o ble fydd y 15,000 darllenwyr yn dod? O'r darllenwyr presennol o'r Quality Papers, neu gan denu pobl sydd ddim yn brynu papur newydd ar hyn o bryd i ddechrau prynu'r Byd, neu combination o'r dau? Teg i ddweud, bod y ffigur o 15,000 yn uchelgeisiol iawn.

Previous 20

December 2006

S M T W T F S
     12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31      

Advertisement

Syndicate

RSS Atom
Powered by LiveJournal.com